Nid oes neb o'm hen gyfeillion
Ddaw trwy angau gyda mi,
Nac a orwedd wrth fy ochor
Obry yn y ddaear ddû:
Ni wna cyfaill ddim ond hyny,
Tywallt dagrau, newid gwedd,
Pan fo'r pridd, y clai, a'r cerig,
Arna'i'n disgyn yn y bedd!
O am Ffrind a lŷn yn angau,
Pan fo pawb yn cilio draw;
Ffrind a'm harwain trwy'r Iorddonen,
Draw i'r bywyd, yn ei law;
Ffrind a'm cofia,
ac a'm gwylia,
Tra b'wy'n gorwedd yn y bedd;
A phan wawrio dydd y cyfri',
Gwyd fy llwch ar newydd wedd!
Casgliad o Hymnau ... Wesleyaidd 1844
Tôn [8787D]: Eifionydd (J Ambrose Lloyd 1815-74) gwelir: Dyn dyeithr ydwyf yma O Iachawdwr pechaduriaid |
None of my old friends
Shall come through death with me,
Nor lie by my side
Under the black earth:
A friend will only do this,
Shed tears, change countenance,
When the soil, the clay, and the stones,
Upon me descend in the grave!
O for a Friend who will stick in death,
When all be retreating far off;
A friend who will lead me through the Jordan,
Yonder to the life, in his hand;
A Friend who will remember me,
and watch over me,
While I am lying in the grave;
And when the day of accounting dawns,
Shall raise my dust transfigured!
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|